| Cyrsiau Hyfforddi |
|
Os am ddatblygu eich hyfforddiant mae nifer o gyrsiau ar gael i’r myfyriwr brwdfrydig.
|
Teithiau i Hong Kong – Hyfforddiant gan yr Uwchfeistr Ip Ching
Yn flynyddol trefnir taith i Hong Kong gyda’r Uwchfeistr Samuel Kwok a’r Meistr Billy Davidson. Yno gallwch ymarfer gyda’r Uwchfeistr Ip Ching |
 |  |
| "Myfyrwyr Abergele yn derbyn hyfforddiant gan Uwchfeistr Ip Ching" |
|
 |
 |
| "Neuadd Hyfforddi Uwchfeistr Ip Ching" | "Wrth fedd Ip Man gyda’r Uwchfeistri Ip Ching a Samuel Kwok |
|
Os am ddewis rhatach ac agosach bydd y Meistr Billy Davidson yn arwain cwrs yn Centreparcs yn Nottingham pob Chwefror/ Mawrth. Cynhelir y cwrs tros benwythnos lawn ac edrychir ar bob agwedd o’r system.
Seminarau
Byddwn yn mynd a myrfyrwyr yn rheolaidd I Fanceinion i seminarau gynhelir gan yr a Meistr Billy Davidson.
|
Cwrs Hyfforddwyr Wing Chun i’r Di-Waith. |
Ar gael mewn ardaloedd detholedig. Cwrs dwys 40 wythnos yn cael ei ariannu gany Llywodraeth. Cwrs yn cynnig diploma sydd yn caniatau I chi ddysgu Wing Chun – yn cynnwys hyfforddiant preifat ac unigol, yn wythnosol ac mewn dosbarth a Dave McQuillan.
Bydd:
i) Asesu cyson gan Meistr BillyDavidson
ii) Gwaith cartref ysgrifennedig yn wythnosol
Crefft Ymladd – Hyfforddiant yn Ysgolion Uwchradd Gall Dave McQuillan ymweld a’ch ysgol a chynnig hyfforddiant Crefft Ymladd fel rhan bwysig o’r cwricwlwm dewisol. Dysgir hunan – amddiffyn a hunan – reolaeth, sut i ffrwyno’ch tymer a thawelu sefyllfaoedd peryglus. Ers rhai blynyddoedd ‘rydym wedi cynnig y gwasanaeth hwn i Ysgol Emrys ap Iwan yn Abergele. Gwelwch gopi o’r “Times Educational Supplement” isod.
|